Bethan Gwanas
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Awdures boblogaidd sy'n ysgrifennu yn yr iaith Gymraeg yw Bethan "Gwanas" Evans. Daeth i amlygrwydd yn bennaf yn sgil llwyddiant addasiad teledu o'i nofel am dîm rygbi merched, Amdani!. Mae'n ysgrifennu i oedolion, i blant ac i ddysgwyr.
[golygu] Cefndir
Fe'i magwyd ar fferm Gwanas yn y Brithdir, ger Dolgellau. Tra'n ifanc, roedd hi'n hoff o ddarllen. Dywedai mai Enid Blyton oedd un o'i hoff awduron tra'n blentyn. Wedi'i haddysgu yn Ysgol y Gader, Dolgellau, aeth ymlaen i raddio mewn Ffrangeg, cyn derbyn swydd fel athrawes Ffrangeg. Bu hefyd yn gweithio fel athrawes Saesneg yn Nigeria, yn ddirprwy bennaeth Gwersyll yr Urdd yng Nglan-llyn, yn gynhyrchydd i Radio Cymru ac yn hyrwyddwr llenyddiaeth i Gyngor Gwynedd. Yn 2003, daeth yn awdures llawn amser.
[golygu] Gwaith Cyhoeddedig
Teitl | Nodiadau |
---|---|
Dyddiadur Gbara (1997) | ei llyfr cyntaf, dan yr enw "Bethan Evans" |
Amdani! (1997) | nofel am dîm rygbi merched, a ddaeth yn gyfres deledu 4-cyfres lwyddiannus ar S4C |
Bywyd Blodwen Jones (1999) | y cyntaf yng nghyfres Blodwen Jones; nofel i ddysgwyr |
Llinyn Trôns (2000) | enillydd Gwobr Tir na n-Og, y wobr am nofelau i bobl ifanc; rhan o'r maes llafur TGAU |
Blodwen Jones a'r Aderyn Prin (2001) | ail lyfr yn y gyfres Blodwen Jones |
Popeth am ... Gariad (2001) | addasiad o Coping with Love gan Peter Corey |
Sgôr (2002) | cyd-ysgrifennwyd â disgyblion ysgol uwchradd; ennillydd Gwobr Tir na n-Og |
Byd Bethan (2002) | casgliad o golofnau papur newydd |
Tri Chynnig i Blodwen Jones (2003) | y llyfr olaf yn y gyfres Blodwen Jones |
Ceri Grafu (2003) | rhan o'r gyfres Pen Dafad wedi'i anelu at bobl ifanc |
Gwrach y Gwyllt (2003) | |
Ar y Lein (2004) | llyfr yn cyd-fynd â'r gyfres deledu lle mae hi'n teitho'r byd |
Hi yw fy Ffrind (2004) | ar restr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn (2005) |
Mwy o Fyd Bethan (2005) | ail gasgliad o golofnau papur newydd |
Pen Dafad (2005) | rhan o gyfres Pen Dafad wedi'i anelu at bobl ifanc |
Hi oedd fy Ffrind (2006) | dilyniant i Hi yw fy Ffrind |
Ar y Lein Eto (2006) | i gyd-fynd â'r gyfres deledu |