Sgwrs:Biwmares
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
[golygu] Biwmaris neu Biwmares?
Mae Wicipedia ar hyn o bryd yn anghyson ynglyn â'r sillafiad Cymraeg am 'Beaumaris'. Yn yr erthygl hon am enw'r dref, defnyddir 'Biwmaris'; yn yr erthygl am y castell Castell Biwmares defnyddir 'Biwmares' ac mae tudalen ail-gyfeiro oddi ar Castell Biwmaris. P'run sy'n gywir?
Mae Gwilym T. Jones a Thomas Roberts[1] yn rhoi un ffurf yn unig, sef 'Biwmares'.
Dywed Islwyn Williams [2],
- Profodd yr Athro Gruffydd Aled Williams fod sail bendant i'r ffurf BIWMARES a bod y ffurf wedi ei ddefnyddio ers canrifoedd. Mae'r arbenigwyr ar enwau lleoedd fel Melville Richards, Tomos Roberts, Gwilym T. Jones, Hywel Wyn Owen, Gwynedd Pierce a Bedwyr Lewis Jones, i enwi ond ychydig, i gyd yn defnyddio Biwmares yn eu llyfrau. Bellach defnyddir y sillafiad Cymraeg BIWMARES yn gyson yn y cyhoeddiadau Cymraeg...
Mae adnodd arlein Canolfan Bedwyr yn rhoi'r un ateb.
Nid yw'r Cyngor Tref yn ffafrio unrhyw ffurf Gymraeg - eu dewis yw defnyddio 'Beaumaris' yn y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg.
Dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, rhoddwyd y cyfrifoldeb am enwi cymunedau i'r Cyngor Sir. Wedi ymgynghori â'r arbenigwyr iaith a'r Cyngor Dref, penderfynodd y Cyngor Sir ym 1998 i fabwysiadu'r ffurf 'Beaumaris' yn Saesneg a 'Biwmares' yn y Gymraeg.
Yn sgîl hyn oll, 'rwyf yn bwriadau symud 'Biwmaris' i 'Biwmares' yma - onibai bod dadl buan i'r gwrthwyneb! D22 19:02, 10 Awst 2006 (UTC)
- Wedi gwneud hyn bellach D22 22:05, 22 Awst 2006 (UTC)