Britheg y gors
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Britheg y gors | |||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dosbarthiad biolegol | |||||||||||||||
|
|||||||||||||||
Enw deuenwol | |||||||||||||||
|
Mae Britheg y Gors (Euphydryas aurinia) yn löyn byw Ewropeaidd sydd dan fygythiad ac mae ei niferoedd yn lleihau’n gyflym yn y DU. Mae gyda'r oedolion marciau trawiadol aur ac orengoch a gwythiennau duon. Mae o dan yr adenydd yn batrymog gyda melyn , oren a du heb unrhyw arlliw o arian o gwbl. Mae marciau arian o dan yr adenydd o bob math o frithion eraill yng Nghymru.
Mae De Cymru yn un o brif gadarnleoedd y rhywogaeth yn Ewrop. Mae rhai poblogaethau yn bodoli yn y gogledd hefyd. Fel arfer mae Britheg y Gors i’w chael mewn glaswelltiroedd llaith grugog a elwirPorfeydd Rhos ond mae'r rhywogaeth yn bodoli mewn mathau eraill o gynefinoedd sy'n sychach, fel glaswelltiroedd niwtral neu mewn glaswelltiroedd calchaidd sych. Gellir gweld poblogaethau bach weithiau mewn nifer o fannau lle nad oes llawer o fwyd planhigion i’w gael. Gall poblogaethau bach fod yn elfen bwysig o'r ecoleg a'r deinameg poblogaeth oherwydd gallant gynhyrchu llawer o unigolion symudol, sy'n gallu sefydlu poblogaethau eraill.
Mae Britheg y Gors yn cael ei diogelu dan gyfraith Prydain. Mae wedi’i rhestru yn rhestr warchodedig Atodiad 5 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
Mae’r pili palod yn hedfan o ganol Mai tan Fehefin. Dodwyir yr wyau mewn grwpiau ar ochr isaf dail y planhigyn bwyd, Tamaid y Cythraul (Succisia pratesis). Mae’r lindys ifanc yn byw mewn gweoedd cyffredin a nyddant dros y planhigyn bwyd. Yn yr hydref maent yn nyddu gweoedd cryfach lle byddant yn dechrau gaeafgysgu.
Yn y gwanwyn bydd y lindys yn dechrau gwasgaru, ar ôl y bwrw croen terfynol. Byddant wedi newid o liw brown i ddu. Gellir eu gweld yn torheulo weithiau. Mae rhaid iddynt fod yn boeth i fwyta.
Mae gwaith ymchwil i ddeinameg poblogaeth Britheg y Gors wedi dangos ei bod yn byw mewn “metaboblogaethau”. Diffinnir Metaboblogaeth fel “casgliad o boblogaethau lleol, sy’n dod i gysylltiad â’i gilydd o ganlyniad i wasgaru achlysurol. O fewn y rhain bydd rhai yn diflannu a chlystyrau eraill yn cael eu sefydlu.”
Fel arfer mae Brith y Gors yn byw mewn poblogaethau bach sy’n dueddol o farw allan ac yna bydd poblogaethau eraill yn cael eu sefydlu o safleoedd cyfagos. Elfen bwysig iawn y gyfyndrefn metaboblogaethau yw y bydd ardaloedd o gynefin gwag yn bodoli bob amser o fewn y gyfundrefn. Mae’n bosib i’r rhan fwyaf o’r darnau cynefin fod yn wag. Mae diogelu safleoedd addas lle nad yw’r pili pala’n bresennol yn hanfodol i’w goroesiad yn y tymor hir.