Bron
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cyfeiria'i gair bron at ran uchaf blaen corff anifail, pobl yn enwedig. Mae bronnau mamaliaid benywaidd yn cynnwys chwarrennau llaeth, sy'n cynhyrchu lefrith a ddefnyddir i fwydo babanod. Canolbwyntia'r erthygl hon ar fronnau benywod dynol yn bennaf.
[golygu] Anatomeg
Dwy fron sydd gan ddynes. Gorchuddir y bronnau gan groen. Mae teth ar bob un, a amgylchynir gan areola. Amrywia lliw yr areola o binc i frown tywyll, ac lleolir sawl cwarren sebwm ynddi. Y chwarrenau llaeth mwyaf sy'n cynhyrchu llefrith. Fe'u dosbarthir trwy'r fron, gyda dau draean o'u meinwëoedd o fewn 30 mm o waelod y diden [1]. Maent yn diferu i'r diden trwy nifer (rhwng 4 a 18) o ddwythellau llaeth, ac mae agoriad unigol gan bob un. Ffurfia'r dwythellau rhwydwaith dyrys.
Meinwe cysylltiol, meinwe floneg, a gewynnau Cooper sy'n ffurfio gweddill y fron. Mae'r gymhareb o chwarrennau i feinwëoedd bloneg yn newid o 1:1 mewn benywod nad ydynt yn llaetha, i 2:1 mewn benywod sydd yn llaetha.[1]
Eistedda'r bronnau dros y cyhyr pectoralis major, ac estynant o lefel yr ail i'r chweched asen fel arfer.
Mewn benywod a dynion, mae yna grynodiad uchel o rydweli a nerfau yn y didenau, ac fe all y didennau cael codiad oherwydd symbyliad rhywiol. [2]
Tybir y daw gynhaliaeth anatomegol o ewynnau Cooper yn bennaf, gyda chynhaliaeth ychwanegol o 'r croen sy'n gorchuddio'r bronnau. Y gynhaliaeth hon sy'n penderfynnu siap y bronnau. Ni ellir olrhain anatomeg mewnol na gallu llaetha bron o'i siap neu'i maint allanol.
[golygu] Swyddogaeth
Swyddogaeth chwarrennau llaeth y bronnau yw cynhyrchu llefrith i feithrin babanod, sy'n mynd allan trwy'r didenau yn ystod laetha. O ran siap y fron dynol, mae'n bosib iddynt esglygu felly er mwyn atal i fabanod fygu wrth fwydo: gan nad yw ên babanod dynol yn ymwthio allan fel y mae mewn primasiaid eraill, gallasai faban fygu tra'n bwydo o fynwes wastad. Yn ol y ddamcaniaeth hon, wrth i'r ên esblygu'n llai, fe esblygodd y bronnau'n fwy.[3]
[golygu] Ffynhonellau
Trwy [en:Breast]
- ↑ 1.0 1.1 Anatomy of the lactating human breast redefined with ultrasound imaging, D.T. Ramsay et al., J. Anat. 206:525-534.
- ↑ http://www.mckinley.uiuc.edu/Handouts/female_function_dysfunction.html
- ↑ Bentley, Gillian R. The Evolution of the Human Breast, American Journal of Physical Anthropology cyfrol=32 rhifyn=38, 2001