Bronfraith
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Bronfraith | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
![]() |
||||||||||||||
Dosbarthiad biolegol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Turdus philomelos Brehm, 1831 |
Mae'r Fronfraith (Turdus philomelos) yn aelod o deulu'r Turdidae. Mae'n aderyn cyffredin ac adnabyddus trwy Ewrop heblaw am Sbaen a Phortiwgal, yn enwedig gan ei fod yn hoff o erddi.
Nid yw'r Fronfraith yn aderyn mudol fel rheol, ond mae adar o'r gogledd yn symud tua'r de yn y gaeaf. Eu prif fwyd yw pryfed, malwod ac aeron. Defnyddir carreg i dorri cregyn y malwod cyn eu bwyta, a gan fod yr aderyn yn aml yn defnyddio'r un garreg bob tro gellir gweld darnau o gregyn ar wasgar o'i chwwmpas. Mae'n nythu mewn llwyni fel rheol.
Gellir gwahaniaethu rhwng y Fronfraith a Brych y Coed sy'n aderyn tebyg iawn trwy fod y Fronfraith llai na Brych y Coed ac yn fwy brown ar y pen a'r cefn lle mae Brych y Coed yn fwy llwydfrown. Mae'r gân yn adnabyddus iawn, a gellir ei hadnabod trwy fod yr aderyn yn ail-adrodd pob darn o'r gân nifer o weithiau cyn symud ymlaen i ddarn arall.