Cenedlaetholdeb Albanaidd
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cenedlaetholdeb Albanaidd yw'r mudiad cenedlaetholgar sydd o blaid ymreolaeth wleidyddol i'r Alban. Mae agweddau gwleidyddol a diwylliannol i'r ideoleg hon. Unodd yr Alban â Lloegr (i greu'r Deyrnas Unedig) yn dilyn Deddf Uno 1707. Ni chymhathodd rhai sefydliadau, fel y gyfraith, yr eglwys, ac addysg, ac mae hyn wedi helpu cadw teimlad o hunaniaeth ddiwylliannol a chenedlaetholdeb yn y wlad sy'n parhau heddiw.
Mae barn yr Albanwyr am annibyniaeth wedi amrywio'n sylweddol ers y Ddeddf Uno. Darganfuodd arolwg gan ICM yn Nhachwedd 2006 bod 51% o Albanwyr o blaid annibyniaeth.[1]
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
[golygu] Senedd yr Alban
Gydag esgyniad Llafur Newydd i'r llywodraeth Brydeinig ym Mai 1997, bu ymreolaeth i'r Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon a Llundain ar yr agenda. Cynhaliwyd refferendwm ym Medi'r un flwyddyn ar senedd Albanaidd, a phleidleisiodd 75% o blaid. Pasiwyd Deddf yr Alban yn 1998 i greu Senedd yr Alban, gyda phwerau dros faterion sy'n berthnasol i'r Alban yn unig, megis amaeth, addysg, yr amgylchedd, iechyd, y gyfraith, llywodraeth leol, cludiant cyhoeddus, a thwristiaeth. Ar hyn o bryd, Llafur yw'r blaid â'r mwyaf o seddi yn y senedd, gyda Phlaid Genedlaethol yr Alban (SNP) yn ail, ond rhagwelir yn ôl arolygon barn diweddar i'r Cenedlaetholwyr ennill nifer mwy o seddi, os nad mwyafrif, yn etholiad 2007.[2]
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ "Pôl: Mwy o blaid annibyniaeth", BBC, 2 Tachwedd, 2006.
- ↑ "Arolwg: Plaid SNP ar y blaen", BBC, 10 Ionawr, 2007.