Cibwts
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cymuned fwriadol gyfunol Israelaidd yw cibwts (weithiau cibẃts; Hebraeg: קיבוץ; lluosog: cibwtsau: קיבוצים, "casgliad" neu "ynghyd"). Er bod gwledydd eraill wedi mentro cymundodau tebyg, nid oes unrhyw ohonynt wedi chwarae rôl mor bwysig o fewn gwlad â chibwtsau Israel. Dechreuodd eu pwysigrwydd o greadigaeth gwladwriaeth Israel, a pharhaodd hyd heddiw.
Mae cibwtsau yn arbrawf Israelaidd unigryw, sydd yn cyfuno sosialaeth a Seioniaeth mewn ffurf o Seioniaeth Lafur, ac yn rhan o un o'r mudiadau cymunedol mwyaf erioed. Sefydlwyd y cibwtsau mewn amser pan nad oedd ffermio annibynnol yn ymarferol. Wedi eu gorfodi gan anghenreidiau i droi at fywyd cymunedol, a wedi eu hysbrydoli gan ideoleg Iddewig/sosialaidd eu hunain, datblygodd aelodau'r cibwtsau dull cymunedol a phur o fyw, a wnaeth denu sylw'r holl fyd. Er parhaodd cibwtsau am nifer o genedlaethau fel cymunedau iwtopaidd, mae'r rhan fwyaf o gibwtsau heddiw braidd yn wahanol i'r trefi arferol cyfalafaidd yr oedd y cibwtsau yn wreiddiol yn dewisiadau eraill i.
Mae cibwtsau wedi rhoi Israel rhaniad anghyfartal o'i arweinwyr milwrol, deallusion, a gwleidyddion. Er nad yw'r mudiad cibwts erioed wedi rhoi cyfrif am dros 7% o boblogaeth Israel, maent wedi gwneud mwy i ffurfio'r ddelwedd mae gan Israeliaid o'u gwlad, a'r ddelwedd mae gan dramorwyr o Israel, nag unrhyw sefydliad arall.
[golygu] Gweler hefyd
- Rhestr cibwtsau