Cliff Morgan
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Cliff Morgan (ganed 7 Ebrill 1930 yn Nhrebanog yn Nghwm Rhondda) yn gyn-chwaraewr Rygbi'r Undeb fu'n chwarae i Gaerdydd ac a enillodd 29 o gapiau dros Gymru rhwng 1951 a 1958.
Yr oedd Morgan o deulu o lowyr, ac ymunodd a chlwb Caerdydd yn syth o'r ysgol yn 1949, yn chwarae fel maswr. Yn ystod tymor 1955 chwaraeodd yn Iwerddon gyda chlwb Bective Rangers, ac erbyn hynny roedd yn ddigon enwog i'r clwb gael ei alw yn "Morgan Rangers" o ganlyniad. Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Iwerddon yn 1951, a chwaraeodd yn y tîm a gyflawnodd Y Gamp Lawn yn 1952. Ef oedd capten tîm Cymru yn 1956.
Bu ar daith i Dde Affrica gyda'r Llewod Prydeinig yn 1955 ac ef oedd capten y Llewod yn y trydydd gêm brawf ym Mhretoria, gêm a enillwyd gan y Llewod.
Ar ôl iddo ymddeol fel chwaraewr rygbi, daeth yn adnabyddus fel darlledwr a sylwedydd ar gemau rygbi.