Codi Canu (cyfres deledu)
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cyfres deledu yw Codi Canu, a ddaw i’r sgrîn ym mis Ionawr ar S4C.
Bydd yn dilyn helyntion; pedwar o hoff gyn-chwaraewyr rygbi Cymru wrth iddynt gapteinio côr eu rhanbarth i gystadleuaeth ar gae Stadiwm y Mileniwm. Gyda nifer o aelodau’r côr erioed wedi mentro nodyn bydd hon yn dipyn o sialens. Bydd y côr buddigol yn ennill y fraint o ddiddori tîm Cymru a 70,000 o gefnogwyr â’r Anthem Genedlaethol. Gobaith y cynhyrchwyr yw y bydd y gyfres yn ail gynnau’r tân ym moliau’r cefnogwyr, ac atgyfodi’r hen draddodiad o ganu 4 llais y y clybiau rygbi .
Taflen Cynnwys |
[golygu] Caneuon y gyfres
Calon Lân
Rhyfelgyrch Gwyr Harlech
Rachie
Sanctus
Medli Codi Canu
(sy’n cynnwys We’ll keep a welcome, Cwm Rhondda a Delilah)
Hen Wlad Fy Nhadau
[golygu] Capteiniaid y gyfres
Ray Gravell (Scarlets Llanelli)
Brynmor Williams (Dreigiau Casnewydd Gwent)
Rowland Phillips (Y Gweilch)
Gareth Edwards (Gleision Caerdydd)
[golygu] Y Corfeistri
Islwyn Evans a Catrin Hughes (Scarlets Llanelli)
Tim Rhys Evans, Cefin Roberts a Rhian Roberts (Dreigiau Casnewydd Gwent)
Alwyn Humphries a Sioned James (Y Gweilch)
Eilir Owen Griffiths a Delyth Medi Lloyd (Gleision Caerdydd)