Conrad II, Ymerodr Glân Rhufeinig
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Conrad II (c.990-1039) yn frenin yr Almaen (o 1024) ac Ymerodr Glân Rhufeinig (o 1027 hyd ei farwolaeth).
Roedd Conrad yn fab i Ddug Franconia a sefydlydd brehinllin Salia.
Yn 1026, croesodd yr Alpau â'i fyddin i ostwng gwrthryfel yng ngogledd yr Eidal. Cafodd ei goroni ym Milan a'r flwyddyn ar ôl hynny fe'i coronwyd yn ymerodr gan y Pab Ioan XIX (1024-1032).
Bu'n rhaid iddo ddychwelyd i'r Almaen yn fuan ar ôl hynny i dawelu cyfres o bedwar gwrthryfel, yr hyn a wnaed erbyn 1033. Yn yr un flwyddyn fe'i coronwyd yn frenin Bwrgwyn. Yn 1036 torrodd gwrthryfel newydd allan yn yr Eidal; llwyddodd i drechu'r gwrthryfelwyr ond bu rhaid iddo ildio nifer o freintiau i'w ddeiliaid Eidalaidd.
Canodd yr offeiriad a llenor Wipo farwnad iddo pan fu farw yn Utrecht yn 1039, ychydig ar ôl iddo ddychwelyd o'r Eidal. Cafodd ei olynu gan ei fab Harri III.