Cymdeithas y Cymreigyddion
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Sefydlwyd Cymdeithas y Cymreigyddion ar yr ail o Dachwedd, 1833, yn y Sun Inn yn Y Fenni. Dewiswyd y swyddogion canlynol:
- Llywydd - Y Parch John Evans ficer Llanofer
- Is-Lywydd William Price, cyfreithiwr yn Y Fennni
- Ysgrifennydd Thomas Bevan
- Eraill - T. E. Watkins bardd, Eiddil Ifor
Amcan y gymdeithas oedd rhoi cyfle i'r aelodau gymdeithasu yn y Gymraeg ac i hybu'r Gymraeg. Ymhlith rheolau'r gymdeithas oedd rheol yn mynnu bod pob ymddiddan ac araith barhaol i fod yn y Gymraeg yn unig.
Yn fuan iawn daeth rhai o foneddigion yr ardal yn aelodau gan gynnwys Sir Charles Morgan, Tredegar a Mr a Mrs Benjamin Hall a mam Mrs Hall, Mrs Waddington, a Lady Coffin Greenly o Titley Court, Henffordd. Un arall a gafodd groeso mawr gan y gymdeithas oedd Y Parch Thomas Price neu fel yr adnabyddir ef hyd heddiw sef Carnhuanawc.