Dafydd y Garreg Wen
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cân draddodiadol Gymreig enwog yw Dafydd y Garreg Wen.
Roedd David Owen (neu Dafydd y Garreg Wen), y telynor dall enwog, yn byw ar fferm Y Garreg Wen ger Morfa Bychan, Porthmadog yn y 18fed ganrif.
Pan roedd ar ei wely angau, yn ôl traddodiad, galwodd Dafydd am ei delyn a chyfansoddodd yr alaw. Bu farw yn 29 mlwydd oed.
Gan mlynedd yn ddiweddarach yn 1873, ysgrifennodd John Ceiriog Hughes y geiriau a gysylltir â'r gân fel arfer.
- 'Cariwch', medd Dafydd, 'fy nhelyn i mi,
- Ceisiaf cyn marw roi tôn arni hi.
- Codwch fy nwylaw i gyraedd y tant;
- Duw a'ch bendithio fy ngweddw a'm plant!'
- 'Neithiwr mi glywais lais angel fel hyn:
- "Dafydd, tyrd adref, a chwarae trwy'r glyn!"
- Delyn fy mebyd, ffarwel i dy dant!
- Duw a'ch bendithio fy ngweddw a'm plant!'
Cyfansoddodd Owen yr alw Codiad yr Ehedydd hefyd.