Die Son
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Papur newydd dyddiol yn yr iaith Afrikaans yw Die Son (hefyd Kaapse Son neu Son).
Sefydlwyd Die Kaapse Son ('Haul y Penrhyn' yn Afrikaans) gan gwmni cyhoeddi Naspers yn 2003 fel papur wythnosol tabloid ar gyfer talaith y Penrhyn Orllewinol (Western Cape yn Ne Affrica). Cyhoeddir y papur yn Tref y Penrhyn (Kaapstad)
Cymaint bu llwyddiant y papur fel iddo troi'n ddyddiol yn 2005. Mae ei gynnwys yn debyg i bapur tabloids y Sun yn Saesneg (mae'r papur yn cynnwys lluniau o ferched bronnoeth ar dudalen 3). Mae pwyslais y cynnwys ar newyddion sensesional, chwaraeon a thrafferthiol personol. Mae bellach yn un o bapurau newydd uchaf ei gwerthiant yn Ne Affrica mewn unrhyw iaith.
Mae ychydig dros hanner darllenwyr y papur yn Dde Affricanwyr Lliw (Cape Coloured) sy'n siarad Afrikaans fel iaith gyntaf a'r gweddill yn wyn.