Dolwyddelan
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Dolwyddelan Conwy |
|
Mae Dolwyddelan yn bentref yn Sir Conwy, yn Nyffryn Lledr. Mae ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Daw'r enw o Eglwys Santes Gwyddelan, nawddsant y plwyf. Mae'r A470 a Rheilffordd Dyffryn Conwy yn pasio drwy'r pentref.
Yn ymyl y pentref ar glogwyn isel y mae Castell Dolwyddelan, un o gestyll Tywysogion Gwynedd a man geni Llywelyn Fawr yn ôl traddodiad. Yma hefyd y mae Tanycastell, man geni y pregethwr John Jones, Talysarn. Ychydig yn is i lawr y dyffryn ceir safle caer Rufeinig yn Bryn-y-Gefeiliau.
[golygu] Y Bont Rufeinig
Uwchlaw'r pentref yn rhan uchaf y dyffryn mae hen bont a elwir Y Bont Rufeinig. Dywedir iddi gael ei chodi i gludo'r hen ffordd Rufeinig o Canovium (Caerhun) i Domen y Mur, gwersyll Rufeinig ger Trawsfynydd. Mae ganddi bpensaernïaeth anghyffredin iawn, gyda wyth fwa o gerrig anferth, ond ymddengys ei bod yn perthyn i'r cyfnod modern cynnar yn hytrach na'r cyfnod Rhufeinig. Mae'r hen ffordd i fyny'r dyffryn i Flaenau Ffestiniog yn ei chroesi.
[golygu] Enwogion
- Llywelyn ap Iorwerth - Tywysog Gwynedd a Gogledd Cymru
- John Jones, Talysarn - pregethwr o'r 19eg ganrif
Trefi a phentrefi Conwy |
Abergele | Bae Cinmel | Bae Colwyn | Betws-y-Coed | Conwy | Cyffordd Llandudno | Deganwy | Dolwyddelan | Gyffin | Henryd | Llandudno | Llanfairfechan | Llangernyw | Llanrwst | Llansannan | Penmachno | Penmaenmawr | Pentrefoelas | Trefriw | Ysbyty Ifan |