Elidir Fawr
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Elidir Fawr Glyderau |
|
---|---|
Llun | Elidir Fawr o'r gogledd |
Uchder | 924m / 3,031 troedfedd |
Gwlad | Cymru |
Mae Elidir Fawr yn fynydd yn y Glyderau yn Eryri, y pellaf i'r gorllewin o fynyddoedd y Glyderau. Ar ochr ogleddol y mynydd mae Marchlyn Mawr, cronfa sy'n rhan o gynllun gorsaf bŵer Dinorwig, sydd i mewn yn y mynydd ei hun. Ar ochr Llanberis i'r mynydd mae Chwarel Dinorwig.
Mae'r copa yn rhan o grib creigiog, hir, sy'n rhedeg o Graig Cwrwgl yn y gogledd-ddwyrain i Fwlch Melynwyn yn y de-orllewin. I'r gogledd-orllewin, rhed Elidir Fach yn gyfochrog a'r prif grib. Ni ystyrir Elidir Fach yn fynydd ar wahan fel arfer, ond mae ganddi uchder o 795m. Tua'r gogledd-ddwyrain, mae Bwlch y Marchlyn a Bwlch y Brecan yn cysylltu'r mynydd i Fynydd Perfedd a'r Foel Goch.
Gellir dringo'r mynydd o ochrau Dinorwig (ger Deiniolen), o Waun Gynfi (ger Mynydd Llandygái) neu o Nant Peris. Gellir cerdded ar hyd ffordd y gorsaf bŵer o Waun Gynfi i frig Marchlyn Mawr, ac yna esgyn yn syth i'r copa, neu gychwyn ar hen inlclein y Chwarel o Ddinorwig, ac yna croesi Elidir Fach. O Nant Peris mae'r llwybr yn croesi Afon Dudodyn ac yna'n dringo llechwedd serth i'r copa. Gellir hefyd ei ddringo o Lyn Ogwen, trwy ddilyn y llwybr heibio Llyn Idwal a dringo i'r grib ger y Twll Du. Yna gellir dringo Y Garn gyntaf ac yna ymlaen i gopa Elidir Fawr, neu mae llwybr arall yn osgoi copa Y Garn.
Y pedwar copa ar ddeg |
---|
Yr Wyddfa a'i chriw: Yr Wyddfa (1085m) | Garnedd Ugain (1065m) | Crib Goch (923m) |
Y Glyderau: Elidir Fawr (924m) | Y Garn (947m) | Glyder Fawr (999m) | Glyder Fach (994m) | Tryfan (915m) | |
Y Carneddau: Pen yr Ole Wen (978m) | Carnedd Dafydd (1044m) | Carnedd Llywelyn (1064m) | Yr Elen (962m) | Foel Grach (976m) | Garnedd Uchaf (926m) | Foel-fras (942m) |