Esgoblyfr Bangor
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Llawysgrif ganoloesol sy'n cynnwys testunau gwasanaeth Lladin ar gyfer yr esgob yw Esgoblyfr Bangor. Fe'i gelwir yn 'esgoblyfr' (Lladin: pontifical) am ei fod yn cynnwys y gwasanaethau eglwysig fedrai neb ond esgob eu gweinyddu, fel bedydd esgob, ordinhau offeiriaid, cysegru eglwys ac amryw bendithion arbennig. Mae'r llawysgrif yn dyddio o ddiwedd y 13eg ganrif neu flynyddoedd cynnar y ganrif nesaf. Fe'i cedwir yn y gadeirlan ym Mangor.
Cyfeirir ato weithiau fel Esgoblyfr Anian, ar ôl enw'r esgob, ond mae'n ansicr pa esgob a olygir. Cafwyd dau esgob ym Mangor o'r enw Anian yn y cyfnod hwnnw. Y cyntaf oedd Anian I (neu Einion I: esgob Bangor 1267 - 1305) a'r ail oedd Anian Sais neu Anian II (neu Einion II: esgob Bangor 1309 - 1328). (Roedd 'na ddau esgob Anian yn Llanelwy tua'r un cyfnod hefyd). Ar ddechrau'r llawysgrif ceir y geiriau Lladin, 'Iste liber est pontificalis domini aniani bangor epicopi'. Y farn gyffredinol heddiw yw mai Anian Sais yw'r Anian hwnnw ('Sais' am ei fod yn medru Saesneg, cymharer enw Elidir Sais) a bod y llyfr wedi'i gomisiynu o sgriptoriwm yn Lloegr tua diwedd ei esgobyddiaeth yn y 1320au.
Mae'r esgoblyfr yn llawysgrif femrwm 258 x 175 mm ac yn cynnwys tudalennau goliwiad hyfryd gyda deunydd helaeth o aur a lliwiau coeth. Mae un o'r lluniau yn portreadu'r esgob ei hun yn cyflwyno'r llyfr i'r eglwys gadeiriol. Yn ogystal â'r lluniau a'r testun Lladin, ceir enghreifftiau cynnar o nodiant cerddorol.
[golygu] Darllen pellach
- Peter Lord, Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd, 2003). Tud. 110-11, 196-7.