Esquel
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Esquel yn dref yn nhalaith Chubut, Ariannin, yn agos i'r ffin a Tsili. Yn ôl cyfrifiad 2001 roedd y boblogaeth yn 30,000.
Sefydlwyd y dref ar y 25 Chwefror 1906, fel estyniad i'r gorllewin o'r sefydiad Cymreig Colonia 16 de Octubre o gwmpas Trevelín 25 Km i'r de. Mae'r llethrau oddi amgylch yn cynnig sgio da, yn enwedig La Hoya. Rhyw ddeng milltir i'r gorllwin mae'r brif fynedfa i Barc Cenedlaethol Los Alerces. Mae dau Dy Tê Cymreig yn y dref, a chapel o'r enw Capel Seion. Mae'r tren bach "La Trochita" yn atyniad mawr i ymwelwyr, ac fe'i disgrifir gan Paul Theroux yn ei lyfr The Old Patagonian Express.