Eva Perón
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

Roedd Eva María Duarte de Perón neu Evita Perón (7 Mai 1919 - 26 Gorffennaf 1952) yn actores a gwleidydd poblogaidd, a aned yn Los Toldos, Buenos Aires.
[golygu] Ei hanes
Fel ail wraig Juan Perón, yn ei dymor cyntaf fel arlywydd yr Ariannin (1946-1955), cefnogai Evita ddiwygiadau poblogaidd o blaid y werin. Oherwydd hynny a'i waith elusennol cawsai ei haddoli gan y tlodion yn ystod ei hoes fer. Gweithiai'n galed o blaid rhoi'r hawl i bleidleisio i ferched. Sefydlodd Sefydliad Eva Perón er mwyn hyrwyddo lles cymdeithasol yn y wlad.
[golygu] Dylanwad
Ysgrifennodd Andrew Lloyd-Webber a Tim Rice y sioe gerdd enwog Evita amdani yn 1978. Yn y ffilm o'r un ewn Madonna a chwareuodd ran Evita.
[golygu] Dolenni allanol
- Sefydliad Hanes Eva Perón
- Gwefan am Evita
- Merched blaenaf hanes.
- Eva Perón yn Imdb.com
- Beddrod Eva Peron
- Evita: More Peronist than Peron - ffeil sain gan y BBC