Gangtok
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Gangtok yw prifddinas talaith Sikkim yn ngogledd-ddwyrain India. Ei phoblogaeth yw 85,000 (1999).
Ystyr yr enw Gangtok yn Nepaleg yw "Y Bryn Uchel". Saif ar fryn hir cul, tua 5,300 troedfedd o uchder, rhwng Afon Ranipul i’r gorllewin ac Afon Rongnek i’r dwyrain. Ni wnaethpwyd yn brifddinas — y drydedd yn hanes y wlad ar ôl Yuksom a Rabdentse — tan ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan nad oedd ond y llys brenhinol ac ychydig o adeiladau eraill yno.
Mae Gangtok wedi datblygu cryn dipyn ers y chwedegau, yn rhannol oherwydd twf ei phoblogrwydd fel canolfan gwyliau gan Fengaliaid dosbarth canol o'r gwastatiroedd, ac erbyn hyn mae’n dref fywiog sy’n ymestyn yn anhrefnus braidd dros lethrau gorllewinol y bryn.