Geraint Griffiths
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Geraint Griffiths (ganwyd 1949) yn ganwr adnabyddus yng Nghymru. Mae hefyd yn gyfansoddwr ac yn actor.
Fe'i magwyd ym Mhontrhydyfen, Dyffryn Afan, lle mynychodd Ysgol Gymraeg Pontrhydyfen, ac Ysgol Ramadeg Glan Afan, Port Talbot.
Yn ystod ei amser yn yr ysgol uwchradd ffurfiodd y grŵp The Undecided a The Dream Time People.
Fu'n astudio nyrsio yn Ysbyty Rhyd Lafar ger Caerdydd, Ysbyty Glan Gwili, Caerfyrddin, a Saint George's Llundain.
Tra yn Llundain fu'n gerddor proffesiynol gyda'r bandie Limbotrol, Boots a Butty.
Daeth adref i Gymru i ymuno â'r band Cymraeg, Injaroc. Fu'r grŵp gyda'u gilydd am naw mis. Cyhoeddwyd un record hir - Halen y Ddaear.
Ar ôl chwalu Injaroc ffurfiodd Geraint y grwp roc Eliffant a chyhoeddi dwy record hir gyda Cwmni Recordio Sain - M.O.M. a Gwin Y Gwan, a sengl ar label y band - Llef.
Ym 1984 enillodd Geraint Cân I Gymru wrth ganu Y Cwm gan Huw Chizwell. Gadawodd nyrsio i ddilyn gyrfa fel cyflwynydd teledu, actor a cherddor.
Bu'n cyflwyno'r rhaglen blant Ffalabalam am bum mlynedd tan orffen y gyfres. Y Cloc (1986) oedd ei ffilm gyntaf gyda'r cyfarwyddwr Endaf Emlyn.
Cafodd gyfres deledu ei hun, Nôl Ar Y Stryd (1986), ar S4C.
Rhwng 2000 a 2006, mae Geraint wedi ymddangos ar y gyfres radio Eileen / Rhydeglwys ar Radio Cymru fel y cymeriad Pete Pritchard.
Ar ôl recordio am flynyddoedd gyda chwmni recordio Sain, fe ffurfiodd Geraint label recordio ei hun - Diwedd Y Gwt. Mae wedi rhyddhau pump CD ar y label yma - Donegal (1992), Hewl (1999), Glastir (2001) Miya-Jima (2005), Clwb Dydd Sadwrn (2007).
Yn 2005 cyhoeddodd Gwasg Gomer hanes Geraint yn y llyfr Hewl gan Geraint Davies a John Davies. Mae hefyd yn perfformio yn achlysurol fel Geraint Griffiths A'r Gwehyddion gyda Geraint Davies (Hergest a Mynediad Am Ddim) a John Griffiths (Edward H. Dafis ac Injaroc).