Germania Superior
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Germania Superior ("Germania Uchaf") yn dalaith o'r Ymerodraeth Rufeinig. Fe'i gelwid yn 'uchaf' am ei bod yn uwch i fyny Afon Rhein na Germania Inferior. Roedd yn cynnwys y tiriogaethau sy'n awr yng ngorllewin Y Swistir, rhan o ddwyrain Ffrainc o gwmpas Mynyddoedd y Jura ac Alsace, a de-orllewin Yr Almaen. Y dinasoedd pwysicaf oedd Besontio (Besançon heddiw), Argentorate (Strasbourg heddiw) a Aquae Mattiacae (Wiesbaden). Prifddinas y dalaith oedd Moguntiacum (Mainz heddiw).
Gorchfygwyd pobloedd yr ardal, y Belgae, gan Iŵl Cesar. Dywedir fod y Belgae yn gymysgedd o Geltiaid ac Almaenwyr, neu'n Geltiaid o dras Almaenig. Yn 90 daeth Germania Superior yn dalaith ymerodraethol, gan ennill llawer o diriogaeth oddi wrth Gallia Lugdunensis. Cyn iddo ddod yn ymerawdwr by Trajan yn rhaglaw Germania Superior rhwng 96 a 98.
Tua 300 daeth y rhan o'r dalaith sy'n awr yn y Swistir yn rhan o dalaith Provincia Maxima Sequanorum cyn dod yn rhan o Fwrgwndi yn nechrau'r bumed ganrif.
Taleithiau'r Ymerodraeth Rufeinig tua 120 OC | |
---|---|
Achaea | Aegyptus | Affrica | Alpes Cottiae | Alpes Maritimae | Alpes Poenninae | Arabia Petraea | Armenia Inferior | Asia | Assyria | Bithynia | Britannia | Cappadocia | Cilicia | Commagene | Corsica et Sardinia | Creta et Cyrenaica | Cyprus | Dacia | Dalmatia | Epirus | Galatia | Gallia Aquitania | Gallia Belgica | Gallia Lugdunensis | Gallia Narbonensis | Germania Inferior | Germania Superior | Hispania Baetica | Hispania Lusitania | Hispania Tarraconensis | Italia | Iudaea | Lycaonia | Lycia | Macedonia | Mauretania Caesariensis | Mauretania Tingitana | Moesia | Noricum | Numidia | Osroene | Pannonia | Pamphylia | Pisidia | Pontus | Raetia | Sicilia | Sophene | Syria | Thracia |