Guto'r Glyn
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Guto'r Glyn (c.1435 – c.1493) yn fardd Cymraeg oedd yn perthyn i draddodiad Beirdd yr Uchelwyr.
Cysylltir Guto â Glyn Ceiriog, lle'r oedd nifer o'i noddwyr yn byw. Ysgrifennodd gerddi i noddwyr ym mhob rhan o Gymru, ac ystyrir ef yn un o feistri'r canu mawl.
Gellir casglu o'i farddoniaeth fod Guto wedi bod yn filwr. Yr oedd yn bleidiwr brwd i blaid yr Iorciaid yn Rhyfeloedd y Rhosynnau, ac ysgrifennodd farddoniaeth i glodfori y brenin Edward IV ac Iarll Penfro, William Herbert, prif gefnogwr yr Iorciaid yng Nghymru.
Treuliodd Guto ei flynyddoedd olaf fel gwestai yn Abaty Sistersaidd Glyn y Groes, ger Llangollen.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Guto'r Glyn Gwaith Guto'r Glyn golygwyd gan Ifor Williams, casglwyd gan John Llywelyn Williams. (Gwasg Prifysgol Cymru, 1939)
Beirdd yr Uchelwyr | ||
---|---|---|
Dafydd ap Gwilym | Dafydd Gorlech | Gruffudd ap Dafydd ap Tudur | Gruffudd Hiraethog | Guto'r Glyn | Gwilym Ddu o Arfon | Gwilym Tew | Hywel Cilan | Iolo Goch | Rhisiart ap Rhys | Rhys Goch Eryri | Simwnt Fychan | Tudur ap Gwyn Hagr |