Harri Morgan
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Preifatîr oedd Syr Harri Morgan (tua 1635 i 25 Awst, 1688). Mae'n debyg y ganwyd o yn Llanrhymny, Morgannwg ger Caerdydd, neu ym Mhencarn, Sir Fynwy, ond o leiaf mae'n siwr yr oedd y teulu yn Gymry. Mae llawer o chwedlau am ei fywyd ac mae'r ffeithiau am ei fywyd yn ansicr, ond gwyddys y bu'n fôr-leidr. Roedd awdurdodiad llywodraeth Lloegr (Letter of Marque) ganddo yn ei awdurdodi i weithredu fel preifatîr ac fe'i gefnodwyd gan lywodraeth Lloegr yn ei ryfelgyrch yn erbyn Sbaen. Cyrhaeddodd ynys Barbados ym 1655 ar alldaith y danfonodd Oliver Cromwell ef arni i India'r Gorllewin. Yn Barbados, priododd Mary Elizabeth, merch ei ewythr Edward a oedd yn Is-Lywodraethwr yr ynys ar y pryd. Ni chawsant blant.
Er 1663 bu'n hwylio ar hyd arfordir Mecsico, Cuba a Phanama - o dan capten arall ar y dechrau ond wedyn yn gapten ei hun - ac yn ymosod a chipio trefi Sbaeneg. Mae e'n enwog am arwain criw o fycaniriaid y Môr Caribî a dianc rhag môr-warchae Maracaibo a osodwyd gan longau rhyfel Sbaen ar ôl brwydr rhwng yr Oxford, llong ryfel o Loegr a Le Cerf Volant, preifatîr o Ffrainc ym 1669.
Dechreuodd ei ymgyrch enwog yn erbyn Panama, dinas cyfoethocaf India'r Gorllewin, ym 1670. Hwyliodd yno'n arwain mintai mewn 36 llong. Bu'n rhaid iddynt gerdded dros y mynyddoedd a thrwy jyngl er mwyn cyrraedd y ddinas a oedd ar arfordir y Môr Tawel, yn hytrach na'r Môr Caribî. Llwyddodd i gipio'r dref a'i losgi, a dychwelyd ag aur, arian a gemau a chanoedd o gaethweision.
Yn y cyfamser roedd Lloegr a Sbaen wedi arwyddo cytundeb heddwch ac oherwydd yr ymosodiad ar Panama fe gafodd ei arestio a'i gludo i Loegr ym 1672. Ond yno newidiodd ei ffawd eto a daeth yn Syr Harri Morgan ym 1674. Dychwelodd i Jamaica y flwyddyn ganlynol i fod yn Is-Lywodraethwr yr ynys, lle y bu farw ar 25 Awst, 1688.
[golygu] Cysylltiadau allanol
- Terry Breverton, The Book of Welsh Pirates and Buccaneers (2003, Glyndwr Publishing)
- Data Wales: Henry Morgan (Saesneg)
- Sir Henry Morgan (Saesneg)
- achau Harri Morgan