Haydn Tanner
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Haydn Tanner (ganed 9 Ionawr 1917 ym Mhenclawdd) yn gyn-chwaraewr Rygbi'r Undeb a enillodd 25 o gapiau drod Gymru fel mewnwr.
Addysgwyd Tanner yn Ysgol Ramadeg Gowerton, ac yr oedd yn dal yn ddisgybl yno pan chwaraeodd i Abertawe yn erbyn y Crysau Duon yn St. Helens yn 1935. Enillodd Abertawe y gêm o 11 pwynt i 3, gyda Tanner a'i gefnder Willie Davies yn chwarae'n arbennig o dda. Neges capten y Crysau Duon, Jack Manchester, i'w gyrru'n ôl i Seland Newydd oedd "Dywedwch wrthyn nhw ein bod ni wedi colli, ond peidiwch a dweud ein bod wedi cael ein curo gan bàr o fechgyn ysgol!".
Ym mis Rhagfyr yr un flwyddyn enillodd Tanner ei gap cyntaf dros Gymru. Yr oedd yn 18 mlwydd ac 11 mis oed, ac un un o'r chwaraewyr ieuengaf i ymddangos dros Gymru. Yr oedd y gêm yma eto yn erbyn y Crysau Duon, ac unwaith eto yr oedd tîm Tanner yn fuddugol. Aeth ymlaen i ennill 25 o gapiau, er i'r Ail Ryfel Byd dorri ar ei yrfa. Roedd ei gêm ryngwladol olaf yn erbyn Ffrainc yn 1949.
Aeth Tanner ar daith i Dde Affrica gyda'r Llewod Prydeinig yn 1938 a chwaraeodd ymhob un o'r tair gêm brawf.