Henry Fielding
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Awdur o Sais oedd Henry Fielding (22 Ebrill, 1707 - 8 Hydref, 1754, a aned ger Glastonbury yng Gwlad-yr-haf, Lloegr.
[golygu] Bywyd
Cafodd Henry Fielding ei eni yn 1707 yn Sharpham Park, ger Glastonbury. Ar ôl cael ei addysg yn Eton, aeth i'r Iseldiroedd ac astudiodd y Clasuron yn Leiden. Pan ddychwelodd i Loegr parhaodd i astudio'r gyfraith ond ar yr un pryd dechreuodd ysgrifennu dramâu ac erthyglau i gylchgronau. Cafodd ei alw i'r Bar yn 1740 ac yn 1749 fe'i apwyntiwyd yn ustus yn Westminster. Teithiodd i Lisbon, prifddinas Portiwgal, ym 1754 a bu farw yno ar yr 8fed o Chwefror. Cyhoeddwyd ei ddyddiadur o'r daith yn 1755, ar ôl ei farwolaeth.
[golygu] Gwaith llenyddol
Roedd Fielding yn adwur toreithiog. Ysgrifenodd nifer o ddramâu ac erthyglau ond fe'i cofir yn bennaf am ei nofelau. Mae'r rhain yn cynnwys:
- The History of the Adventures of Joseph Andrews and of hid friend Mr Abraham Adams (1742)
- The History of Tom Jones, a Foundling (1749)
- Amelia (1751)
- The Life of Mr Jonathan Wild the Great (1743)
- Journal of a Voyage to Lisbon (1755)
[golygu] Llyfryddiaeth
- A. Digeon, The Novels of Fielding (1924)
- H. Austin Dobson, Henry Fielding (1907)
- F.H. Dudden, Fielding (1952)
- M.P. Wilcocks, A True-Born Englishman (1947)