Idwal Foel
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Idwal Foel ab Anarawd (bu farw 942), Brenin Gwynedd o 916 hyd ei farwolaeth.
Etifeddodd Idwal orsedd Gwynedd ar farwolaeth ei dad, Anarawd ap Rhodri, yn 916. Bu'n rhaid iddo dalu teyrnged i Athelstan Brenin Lloegr. Yn dilyn marwolaeth Athelstan, cododd Idwal a'i frawd Elisedd mewn gwrthryfel yn erbyn y Saeson, ond lladdwyd y ddau mewn brwydr yn 942.
Gellid disgwyl y byddai teyrnas Gwynedd yn awr yn cael ei rhannu rhwng meibion Idwal, Iago ab Idwal ac Idwal, a elwir yn y croniclau yn Ieuaf ab Idwal. Fodd bynnag ymosododd Hywel Dda, Brenin Deheubarth ar Wynedd a gyrru meibion Idwal ar ffo. Ar ôl marw Hywel yn 950, llwyddodd meibion Idwal i gael y deyrnas yn ôl.
[golygu] Cyfeiriadau
John Edward Lloyd (1911) A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co}