John Morris-Jones
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Bardd a gramadegydd oedd Syr John Morris-Jones (17 Hydref, 1864 - 16 Ebrill, 1929).
Cafodd ei eni yn Llandrygarn, Sir Fôn. Yn fuan wedi hynny, symudodd y teulu i Lanfairpwllgwyngyll. Wedi addysg yn Ysgol Friars, Bangor, a Choleg Crist, Aberhonddu, enillodd ysgoloriaeth i Goleg Yr Iesu, Rhydychen i astudio mathamateg. Yno cafodd flas ar astudio'r iaith a llenyddiaeth Gymraeg, ac 'roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Dafydd ap Gwilym. Aeth ymlaen i astudio'r Gymraeg yno dan yr Athro Syr John Rhys.
Penodwyd yn ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor yn 1888 ac yn 1895 yn athro.
Cyn ei amser ef, roedd sillafiad y Gymraeg yn amrywio ar gramadeg heb ei safoni. Campwaith John Morris-Jones oedd creu safon i orgraff y Gymraeg, yn seiliedig ar ymchwil ieithyddol ac sydd yn parhau yn yr iaith heddiw.
Bu farw yn 1929 a chladdwyd yn Llanfairpwllgwyngyll.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Welsh orthography (1893)
- A Welsh Grammar, Historical and Comparative (1913)
- Cerdd Dafod, sef Celfyddyd Barddoniaeth Gymraeg (1925)
[golygu] Ffynonellau
- Bedwyr Lewis Jones Syr John Morris-Jones yn Bedwyr Lewis Jones (golygydd) (1979) Gwŷr Môn