Llewelyn Lewellin
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Llewelyn Lewellin (1798 - 1878) oedd clerigwr.
Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y Bont-faen a Choleg Iesu, Rhydychen, cafodd anrhydedd yn y dosbarth blaenaf yn yr arholiad terfynol yn y clasuron, a graddio'n B.A. yn 1822, M.A. yn 1824, B.C.L. yn 1827, a D.C.L. yn 1829. Cafodd urddau diacon yn 1822 ac offeiriad yn 1823, ar law esgob Rhydychen, ac yn 1826 dcrbyniodd swydd prifathro ysgol ramadeg Bruton yng Ngwlad yr Haf. Eithr yn lle mynd yno aeth i Goleg Dewi Sant, Llanbedr-pont-Steffan, fel ei brifathro cyntaf, yn 1827, a bu yno hyd ei farw 25 Tachwedd 1878. Bu hefyd yn ficer Llanbedr (o 1843). ac yn ddeon Tyddewi (o 1843). Claddwyd ef yn Llanbedr.