Madeline Smith
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Madeline Smith (2 Awst, 1949 - ), yn actores o Saesnes a aned yn Hartfield, Sussex. Dilynodd yrfa fel model yn y 1960au ac actiodd wedyn mewn sawl ffilm gomedi o'r chwedegau a'r saithdegau (e.e. mewn rhai ffilmiau "Carry On"), mewn cyfresi teledu (e.e. "The Two Ronnies" a "Doctor in the House") ac mewn ffilmiau arswyd Hammer.
Actiodd mewn ffilm Hammer am y tro cyntaf yn Taste the Blood Of Dracula (1969). Ond mae ei statws cwlt fel seren Hammer yn tarddu yn bennaf o ddwy ffilm gofiadwy, The Vampire Lovers (1970) a Frankenstein and the Monster from Hell (1974).
Mae ffilmiau mwyaf nodedig Madeline Smith yn cynnwys:
- The Vampire Lovers
- Up Pompeii
- The Amazing Mister Blunden
- Live and Let Die
- Theatre of Blood