Madog ap Selyf
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Madog ap Selyf (fl. cyn 1282) yn llenor o Gymro yn yr iaith Ladin.
Ychydig iawn sy'n hysbys amdano. Tybir ei fod yn ŵr eglwysig yn Abaty Ystrad Fflur, ond nid oes tystiolaeth uniongyrchol o hynny. Posiblrwydd arall yw ei fod yn gysylltiedig â Llanbadarn.
Cyfieithodd o leiaf ddau destun Lladin i'r Gymraeg rywbryd yn drydydd chwarter y 13eg ganrif. Un ohonynt yw trosiad Cymraeg o'r Turpini Historia, sy'n adrodd rhan o hanes Siarlymaen, dan y teitl Cronicl Turpin. Mae'r testun i'w cael yn Llyfr Gwyn Rhydderch. Dyma a geir mewn coloffon i'r dudalen gyntaf:
- A'r llyuyr hwnn a ymchoeles (cyfieithodd) Madawc ap Selyf o Ladin yg Kymraeg, o addolwyn a deisyf Grufud vab Maredud ab Owein ab Grufud ab Rys.
Ar ofyniad Gruffudd ap Maredudd ab Owain, un o ddisgynyddion yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth, y gwnaeth Madog y gwaith, felly. Rydymm yn gwybod ei fod wedi trosi testun arall o'r Lladin i Gymraeg yn ogystal. Cyfieithiad o'r testun crefyddol poblogaidd Transitus Mariae yw hynny. Unwaith eto mae'r testun yn y Llyfr Gwyn.
[golygu] Llyfryddiaeth
Gweler rhagymadrodd Stephen J. Williams i'w olygiad o Ystorya de Carolo Magno (Caerdydd, 1968).