Maesglase
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Maesglase (neu Maesglasau) Cadair Idris |
|
---|---|
Llun | Maesglase |
Uchder | 676m / 2,218 troedfedd |
Gwlad | Cymru |
Mae Maesglase (weithiau Maesglasau) yn fynydd yn ne Gwynedd Fe'i hystyrir yn rhan o fynyddoedd Cadair Idris, er fod y ffordd A487 o Dolgellau i Gorris yn ei wahanu oddi wrth Gadair Idris ei hun. Saif ychydig i'r gorllewin o bentref Dinas Mawddwy a thua 4 milltir i'r de-orllewin o Aran Fawddwy.
Gellir ei ddringo o bentref Dinas Mawddwy, neu o'r ffordd A470 ychydig i'r gorllewin o Ddinas Mawddwy. Am daith hirach gellir dringo Cribin Fawr, sydd ychydig i'r gorllewin, o'r man parcio ger Bwlch Oerddrws ac yna dilyn y grib i gopa Maesglase.
Ar lethrau dwyreiniol y mynydd mae Cwm Maesglasau, lle roedd yr emynydd a bardd Hugh Jones, Maesglasau (1749-1825) yn byw.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Terry Marsh The summits of Snowdonia (Robert Hale, 1984)