Medicine Hat
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Dinas yn ne-ddwyrain talaith Alberta, Canada, yw Medicine Hat. Fe'i lleolir ar Afon De Saskatchewan, 165 milltir o Calgary a 660 milltir o Winnipeg. Ei phoblogaeth yw 56,048 (Cyfrifiad 2005).
Mae'r enw "Medicine Hat" yn gyfieithiad Saesneg o 'Saamis' (SA-AH-UMP-SIN)- y gair Troed Du (Blackfoot) am y penwisg o blu cynffon eryr a wisgid gan y 'medicine men' lleol - sef 'Medicine Hat'. Yn ôl un traddodiad daw'r enw o frwydr rhwng y Traed Duon a'r Cree lle collodd medicine man ei het yn Afon De Sakatchewan.