Messier 101
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Galaeth troellog cawraidd yw Messier 101 (M101).
Mae M101 yn alaeth dosbarth Sc, sef galaeth troellog a chanddo chwyddiad canolog cymharol fychan a system breichiau troellog nad ydynt yn dynn. Mae'n gorwedd tua 16 miliwn blwyddyn goleuni i ffwrdd o'n Cyfundrefn Heulog ni, ac felly'n gymharol agos i'r Ddaear.
Gwyddys fod gan M101 nifer fawr o ardaloedd HII cawraidd, sef ardaloedd yn y galaeth hwnnw lle mae nebulae hyloyw mawr yn disgleirio mewn canlyniad i ymbelydredd uwchfioled a ryddheir gan sêr anferth oddi fewn iddynt.