Moleciwl
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

Yng Nghemeg, moleciwl yw agregiad o dau neu fwy o atomau mewn trefniant pendant sydd wedi bondio'n gemegol. Nid yw sylweddau cemegol yn rhannu'n anfeidrol i mewn i ffracsiynau llai: mae moleciwl yn gyffredinol yn cael ei ysyried fel y gronyn lleiaf o sylwedd pur sy'n cadw ei gyfansoddiad a'i briodweddau cemegol.
Yng ngwyddoniaeth molecylaidd, ystyrir moleciwl fel endid digon sefydlog a niwtral sydd wedi ei gyfansoddi o ddau neu fwy o atomau. Defnyddir y cysyniad o foleciwl monatomig (un atom), fel y gwelir mewn nwyon nobl, bron yn gyfyngol yn theori cinetig nwyon, lle enwir gronynnau sylfaenol yn gonfensiynol yn "folecylau", er gwaethaf eu cyfansoddiad.