Noujoum Al-Moustakbal
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Noujoum Al-Moustakbal (Arabeg:نجوم المستقبل) yn rhaglen deledu Libanaidd ar y sianel Future TV sy'n rhoi cyfle i sêr ifainc y dyfodol ddangos eu doniau cerddorol. Ystyr yr enw Noujoum Al-Moustakbal yw "Sêr y Dyfodol" (noujoum "sêr", moustakbal "dyfodol").
Ar un o raglenni Noujoum Al-Moustakbal y cafodd y gantores Nancy Ajram ei chyfle cyntaf a arweiniodd i fri rhyngwladol iddi.