Olga o Kiev
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Olga o Kiev neu'r Santes Olga (Rwseg / Wcraineg: Ольга), a enwir hefyd Olga Prekrasa (Ольга Прекраса), neu Olga Hardd, Hen Norseg: Helga; bu farw 11 Gorffennaf, 969, Kiev) yn ferch o Pskov o dras Farangaidd a briododd Igor o Kiev, brenin Kiev yn ddiweddarach, yn y flwyddyn 903. Yn ôl y Brut Cynradd Rwsieg cafodd ei geni yn 879 ond mae hynny'n rhy gynnar. Ar ôl marwolaeth Igor, rheolodd Rws Kiefaidd (945-c.963) yn enw ei mab, Svyatoslav.
Dechreuodd Olga ei theyrnasiad trwy ddial marwolaeth ei gŵr yn nwylo'r Drefliaid, a llwyddodd i ladd nifer ohonyn nhw, weithiau mewn modd creulon iawn, er enghraifft eu claddu mewn llong a hwythau'n dal yn fyw, a sgaldio carcharorion i farwolaeth. Newidiodd trefn talu teyrnged ariannol ei gwlad hefyd (poliudie), ac ysytrir hyn yn un o'r diwygiadau cyfreithiol cynharaf yn hanes Dwyrain Ewrop.
Olga oedd y rheolwr Rws cyntaf i droi'n Gristion, naill ai yn 945 neu 957. Disgrifir ei ymweliad â Chaergystennin yn fanwl gan yr ymerodr Bysantaidd Constantin VII yn ei lyfr De Ceremoniis. Ar ôl ei bedyddio cymerodd yr enw Cristnogol Yelena, ar ôl yr Ymerodres Helena Lekapena.

Tyfodd chwedlau apocryffaidd am amgylchiadau ei bedyddiad yn y croniclau Slafonaidd, sy'n ei phortreadu fel tywysoges ifanc a swynodd yr ymerodr a'i demtio i gael perthynas â hi, ond mewn gwirionedd roedd hi'n ddynes hen erbyn hynny.
Olga oedd un o'r Rwsiaid cyntaf i gael eu cyhoeddi'n sant, am ei ymdrechion i hyrwyddo'r ffydd newydd yn y wlad. Ond ni lwyddodd i droi Svyatoslav, a'i mab a disgybl Vladimir I a wnaeth Cristnogaeth yn grefydd y wladwriaeth. Yn ystod cyrchoedd milwrol estynedig ei mab arosai yn Kiev i reoli'r deyrnas yn ei absenoldeb, gan aros yng nghastell Vyshgorod gyda'i wyrion. Bu farw yno yn fuan ar ôl y warchae ar y ddinas gan y Pechenegiaid yn 968.