Parc Gwledig Margam
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Parc Gwledig Margam wedi'i leoli mewn 1000 erw o barcdir. Yno fe welir orendy o'r 18fed ganrif, tŷ Fictoraidd yn y dull Tudur-Gothig, cabidyldy o'r 12fed ganrif, gerddi hanesyddol newydd a adferwyd o amgylch y castell, gerddi mynachaidd a theras yr orendy.
Mae'r Parc yn cynnwys teithiau cerdded, y rheilffordd gul newydd sy'n arwain at le chwarae antur i blant, y ganolfan achub adar rheibus, llwybr fferm a chornel anifeiliaid anwes, y pentref tylwyth teg, a llyn pysgota. Mae dau fath o geirw - ceirw cochion a cheirw Père David -yn crwydro'r parcdir, a Pharc Margam yw cartref gwartheg Morgannwg.