Pistyll Rhaeadr
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Pistyll Rhaeadr yw'r rhaeadr uchaf yng Nghymru. Fe'i lleolir ger pentref deniadol Llanrhaeadr-ym-Mochnant, yng ngorllewin Sir Drefaldwyn (Powys).
Mae'n disgyn 240 troedfedd (75m) dros wyneb craig o'r cyfnod Silwraidd ar lethrau dwyreiniol y Berwyn.
Rhed Afon Disgynfa dros y graig ac ar ôl y rhaeadr mae'n newid ei henw i Afon Rhaeadr. Mae'n un o Saith Rhyfeddod Cymru.
Bellach mae'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSI).