Planed gorrach
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Yn ôl diffiniad yr Undeb Seryddol Rhyngwladol (IAU) mae planed gorrach yn gorff nefol sydd, o fewn Cysawd yr Haul,
(a) yn cylchio'r Haul;
(b) a chanddo'r cynhwysedd digonol i gadw ffurf cronnell
(c) heb glirio'r gymdogaeth o gwmpas ei gylchdro
(ch) ddim yn lloeren
Nid yw'r term yn cynnwys planedau cysodau planedol eraill.
Mabwysiadwyd y term yn 2006. Hyd yma mae tri chorff wedi cael eu cydnabod fel planedau corrach: Ceres, Plwton ac Eris.