Porth Madryn
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Porth Madryn (Sbaeneg: Puerto Madryn) yn un o drefi mwyaf talaith Chubut, Ariannin, gyda phoblogaeth o 45,047 yn 1991 ond bellach wedi tyfu i tua 60,000.
[golygu] Daearyddiaeth
Saif Puerto Madryn ar lan y môr ar y Golfo Nuevo, y bae rhwng Gorynys Valdés a Punta Ninfas. I dwristiaid, mae'n bwysig fel y dref fwyaf cyfleus ar gyfer ymweliad a Gorynys Valdés, sy'n nodedig am ei adar a bywyd gwyllt arall. Mae'r hinsawdd yn sych ac yn oer, gyda rhwng 150 a 200 mm o wlybaniaeth y flwyddyn.
[golygu] Hanes
Gwelwyd yr Ewropeaid cyntaf yn y cylch yn 1779 pan laniodd Juan de la Piedra. Sefydlwyd y dref ar y 28 Gorffennaf 1865 pan gyrhaeddodd 150 o Gymry yn y llong Mimosa. Hwy a roes yr enw "Porth Madryn" i anrhydeddu Love Jones-Parry o Fadryn oedd wedi bod o gymorth mawr iddynt. Tyfodd y dref o ganlyniad i adeiladu rheilffordd i'w chysylltu a Threlew.
[golygu] Economi
Mae'r dref yn dibynnu yn bennnaf ar dri diwydiant, cynhyrchu alwminiwm, pysgota a thwristiaeth. Cyflogir tua 1,700 o weithwyr yn y gwaith ALUAR Aluminio Argentino. Yn yr haf mae llawer o dwristiaid yn dod i fwynhau'r traethau, tra yn y gaeaf trefnir teithiau o'r dref i weld morfilod, pengwiniaid a bywyd gwyllt arall.