Radio rhyngrwyd
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Ffordd i dderbyn gorsaf radio sy'n darlledu dros y rhyngrwyd i’r cyfrifiadur yw ‘Radio Rhyngrwyd’. Trwy ddefnyddio'r dechnoleg gywir gall unrhywun ddarlledu gorsaf radio dros y rhyngrwyd. Un o brif fanteision y math hwn o dechnoleg yw nad ydyw'n dibynnu ar yr amledd prin a drud a defnyddir gan radio traddodiadol. Mae natur agored y rhyngrwyd yn galluogi'r gorsafoedd radio dargedu cynulleidfa eang iawn yn fyw ac yn rhad.
Gwrando: Er mwyn gwrando ar radio rhyngrwyd, mae angen cyfrifadur, cysylltiad rhyngrwyd a’r caledwedd a'r feddalwedd gywir – modem, cerdyn swn a chwaraewr cyfryngau. Bydd ansawdd y swn yn dibynnu ar gyflymder neu ystod y rhyngrwyd.
Darlledu: Elfennau pwysicaf darlledu radio dros y rhyngrwyd yw’r amgodiadwr a’r gweinydd. Mae’r amgodiadwr yn amgodio’r neges glywedol o’r meicroffôn/mwyhäwr sain i neges ddigidol er mwyn ei thrawsyrru. Mae’r gweinydd yn derbyn y neges ac yn ei thrawsyrru ar y rhyngrwyd.