Defnyddiwr:Rhian chris
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
|
Rhian Daniel a Chris Collins ydym ni. Rydw i (Rhian) yn Gymraes iaith gynta o Gastell-nedd. Saes o Hatfield yn Swydd Hertford yw Chris, ac mae e'n dysgu'r Gymraeg. Ry'm ni'n dau yn byw yn Llundain.
Astudiais i Fathemateg yng Ngholeg y Breninesau, Prifysgol Caergrawnt cyn symud i Lundain i astudio Ystadegaeth Feddygol yn Ysgol Glendid a Meddygaeth Drofannol Llundain. O ran diddordebau, rwy'n mwynhau canu, chwarae'r ffidil a'r delyn a choginio.
Bu Chris hefyd ym Mhrifysgol Caergrawnt yn astudio'r Gwyddorau Naturiol, ac mae e bellach yn astudio Polisi Egni yng Ngholeg Ymerodrol Llundain. Canu a chwarae'r soddgrwth yw ei brif ddiddordebau.