Rhinog Fach
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Rhinog Fach Rhinogydd |
|
---|---|
![]() |
|
Llun | Rhinog Fach a Llyn Hywel o Y Llethr |
Uchder | 712m / 2,336 troedfedd |
Gwlad | Cymru |
Mae Rhinog Fach yn fynydd yn y Rhinogydd yng Ngwynedd. Saif fymryn i'r de o Rhinog Fawr ac i'r gogledd o Y Llethr. Fel y rhan fwyaf o'r Rhinogydd, ceir creigiau wedi eu gorchuddio gan rug, sy'n gwneud ei ddringo yn waith caled. Wrth droed Rhinog Fach mae Llyn Hywel.
I ddringo'r mynydd rhaid anelu am Fwlch Drws Ardudwy, rhwng Rhinog Fach a Rhinog Fawr. Y ffordd hawddaf o'i gyrraedd yw trwy Gwm Nantcol, yn cychwyn o Lanbedr. Gellir parcio ger ffermdy Maesygarnedd, hen gartref John Jones, Maesygarnedd. Gellir hefyd ddilyn llwybr heibio Llyn Hywel ac i ben y bwlch rhwng Rhinog Fach ac Y Llethr. Mae modd hefyd ei ddringo o'r dwyrain, gan gychwyn ychydig i'r de o bentref Trawsfynydd ac anelu am Fwlch Drws Ardudwy o'r cyfeiriad yma, ond mae'n daith llawer hirach.