Richard Ithamar Aaron
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Richard Ithamar Aaron (6 Tachwedd, 1901 – 4 Ebrill, 1987) yn athronydd o Gymro, a aned ym Mlaendulais, Morgannwg.
Cafodd Aaron ei addysg brifysgol yng Ngholeg Oriel, Rhydychen. Roedd yn Athro Athroniaeth yng Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, o 1932 hyd ei ymddeoliad yn 1969. Bu hefyd yn is-gadeirydd Coleg Harlech, llywydd Cymdeithas y Meddwl a chadeirydd Cyngor Cymru. Rhwng 1938 a 1968 golygodd y cylchgrawn Efrydiau Athronyddol.
Prif ffocws ei waith athronyddol oedd epistemoleg a chyffredinolion, ond mae'n fwyaf adnabyddus am ei fywgraffiad o'r athronydd John Locke.
Bu farw Aaron yn Aberystwyth yn 1987.
[golygu] Llyfryddiaeth ddethol
[golygu] Gwaith Aaron
- The Nature of Knowing (1930)
- Hanes Athroniaeth (Caerdydd, 1932)
- John Locke (1937)
- The Theory of Universals (1952)
- Knowing and the Function of Reason (1971)
[golygu] Ffynnonellau
- Jones, O. R., "Aaron, Richard Ithamar", Oxford Dictionary of National Biography, (Rhydychen, 2004)
- Stephens, Meic (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1988)