Robert Peel
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cyfnod mewn swydd | Rhagfyr, 1834 - Ebrill, 1835 Medi, 1841 - Gorffennaf, 1946 |
Rhagflaenydd: | William Lamb, 2ail Is-Iarll Melbourne |
Olynydd: | William Lamb, 2ail Is-Iarll Melbourne Arglwydd John Russell |
Dyddiad geni: | 5 Chwefror 1788 |
Dyddiad marw: | 2 Gorffennaf 1850 |
Lleoliad geni: | Bury, Lancashire |
Lleoliad marw: | San Steffan, Llundain |
Plaid wleidyddol:: | Ciedwadol |
Sylfaenydd y Blaid Geidwadol fodern oedd Syr Robert Peel (5 Chwefror 1788 – 2 Gorffennaf 1850), Prif Weinidog y Deyrnas Unedig rhwng Rhagfyr 1834, ac Ebrill 1835 a rhwng Gorffennaf 1841, a Mehefin 1846. Diwydiannwyr oedd ei deulu, a chafodd ei ddisgrifio gyda chryn snobyddiaeth gan Ddug Wellington fel dyn o "low birth and vulgar manners."
Nid oedd pleidiau gwleidyddol ffurfiol i'w cael ym mlynyddoedd cynnar y 19eg ganrif, ond roedd dwy brif garfan yn y Senedd, sef y Chwigiaid a'r Torïaid. Er bod y ddwy garfan yn geidwadol iawn wrth safonau heddiw, roedd y Chwigiaid fel arfer yn fwy cefnogol i newid. Roedd yn Torïaid yn canolbwyntio'n draddodiadol ar amddiffyn Eglwys Loegr rhag Catholigiaeth ac Anghydffurfiaeth, ac ar amddiffyn buddiannau tirfeddianwyr cefn gwlad rhag masnachwyr y trefi. Roedd Robert Peel yn un o'r Torïaid cyntaf i sylweddoli bod rhaid i hyn newid er mwyn i Dorïaeth oroesi.
Yn 1829, fe gafodd ei wrthdrawiad cyhoeddus cyntaf gyda'i gyd-Dorïaid - arwydd o gwrs dyfodol ei yrfa. Yn y flwyddyn honno, Peel a lywiodd y Mesur Rhyddfreinio Catholigion trwy'r Senedd, gan ganiatáu i Gatholigion ddod yn Aelodau Seneddol am y tro cyntaf. Roedd llawer o'i gyd-Dorïaid yn gweld hyn yn frad ac yn ergyd i oruchfiaeth Eglwys Loegr. Roedd rhai yn cyhuddo Peel o fradychu ei egwyddorion personol trwy gyflwyno'r Mesur, gan ei fod wedi'i wrthwynebu am ugain mlynedd. Yn wir, cymaint oedd ei ei wrth-Gatholigaeth ar un adeg nes iddo ennill y llysenw "Organge Peel" (cyfeiriad at yr Urdd Oren Protestanaidd). Ond roedd cefnogaeth fawr i'r Mesur yn Iwerddon (rhan o'r Deyrnas Unedig ar y pryd) lle roedd 80% o'r boblogaeth yn Gatholigion.
Trwy Faniffesto Tamworth yn 1934, fe osododd yn ffurfiol seiliau ei Geidwadaeth newydd, a fyddai'n cydnabod buddiannau llawer ehangach na'r hen Dorïaeth. Yn y ddogfen hon, fe dderbynniodd Ddeddf Ddiwygio 1832 - y Great Reform Act - y ddeddf a roddodd y bleidlais i ddosbarth canol y trefi. Newid mawr iawn oedd hwn o bolisi blaenorol y Torïaid, er bod Peel yn credu nad oedd dim angen estyn y bleidlais ymhellach, ac roedd e'n hollol wrthwynebus i ddemocratiaeth.
Dywedodd hefyd ym Maniffesto Tamworth ei fod am gytbwyso buddiannau amaeth, masnach a diwydiant, newid mawr arall o hen bwyslais y Torïaid ar y landed interest.
Ymhlith ei waith pwysicaf fel Prif Weinidog roedd deddf yn 1842 i wahardd menywod a phlant rhag gweithio dan ddaear yn y pyllau, a deddf yn 1844 yn lleihau oriau gwaith gweithwyr y ffatrïoedd. At hynny, fe dynnodd tua chant o droseddau oddi ar y rhestr o bethau y gallai rhywun gael ei grogi amdanynt - cyn hynny roedd smalio bod yn un o Bensiynwyr Chelsea yn gallu arwain at y gosb eithaf.
Cadarnhaodd Peel yn yn 1846 na fyddai'r Geidwadaeth newydd yn was bach i'r tirfeddianwyr pan ddileuodd y Deddfau Ŷd. Roedd y deddfau hyn yn symbol o rym tirfeddianwyr cefn gwlad, gan warantu pris uchel am ŷd, ac arwain felly, yn ôl rhai, at fara drud i bobl y trefi.
Mae hefyd yn nodedig am greu Heddlu Llundain - y Metropolitan Police - yn 1829, yr heddlu ffurfiol cyntaf ym Mhrydain. Roedd y plismyn cyntaf weithiau'n cael eu galw'n Peelers ar ei ôl e.