Santes Canna
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Santes a fu'n byw yn ne Cymru yn y chweched ganrif oedd Santes Canna. Sefydlodd eglwysi yn Llangan, Sir Gaerfyrddin a Llangan, Bro Morgannwg. Mae dwy ardal Caerdydd, Treganna a Phontcanna, yn dwyn ei henw hefyd. Dathlir ei gŵyl ar 25 Hydref.