Syr Hywel y Fwyall
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Yr oedd Syr Hywel y Fwyall neu Syr Hywel ap Gruffudd (fl. 1330 - 1381), yn farchog Cymreig a Chwnstabl (ceidwad) Castell Cricieth. Roedd yn ymladdwr dewr oedd yn enwog yn ei ddydd. Ei ddewis arf oedd y fwyall.
[golygu] Ei hanes
Yr oedd Syr Hywel yn enwog iawn am ei gampau fel capten ym myddin y Tywysog Du ym mrwydr Poitiers (1356). Yn ôl traddodiad daliodd Ioan Dda, brenin Ffrainc yno. Cafodd Syr Hywel lwfans bwyd iddo ef ei hun a'i fwyall enwog yn ogystal, rhenti melinau yng Nghaer ac, yn ddiweddarach, gwnstabliaeth Castell Cricieth, mewn diolch iddo gan y tywysog am ei wrhydri. Mae'n debyg mai oherwydd iddo dorri barf brenin Ffrainc â'i fwyall y cafodd y llysenw "Syr Hywel y Fwyall".
[golygu] Cyfeiriadau gan y beirdd
Canodd Iolo Goch gywydd i Syr Hywel tua'r flwyddyn 1376. Canodd Gruffudd Gryg gywydd i Einion ap Gruffudd, brawd Syr Hywel.
Erys ar glawr marwnadau iddo gan Ruffudd ap Maredudd a Rhisierdyn.
[golygu] Darllen pellach
- D.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988). Cywydd 2 a'r nodiadau iddo.
- Y Bywgraffiadur Cymreig, t.345.