Tanni Grey-Thompson
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Athletwraig cadair olwyn yw Tanni Grey-Thompson. Ganwyd 26 Gorffennaf 1969 yng Nghaerdydd.
Mae hi wedi ennill 11 medal aur mewn pump gêm paraolympaidd, chwech marathon Llundain a thros 30 record byd. Ond efallai yn bwysicach na dim yw ei chyfraniad i normaleiddo agweddau pobl i ddefnyddir cadair olwyn, ac mae wedi gwneud hyn yn bennaf drwy fod yn hi ei hun.
Un o'r harwyr mwyaf yw Gareth Edwards.
Mae ganddi radd mewn gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth cymdeithasol.
Capten tîm Cymru yn y Gemau'r Gymanwlad 2006 oedd Tanni.
Medalau Tanni
ATHEN 2004
- Aur: 100m, 400m
SYDNEY 2000
- Aur: 100m, 200m, 400m, 800m
ATLANTA 1996
- Aur: 800m (RB)
- Arian: 100m, 200m, 400m
BARCELONA 1992
- Aur: 100m (RB), 200m, 400m (RB), 800m
- Arian: 4x100m
SEOUL 1988 Efydd: 400m