Tehuelche
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Pobl frodorol Patagonia yw'r Tehuelche (yr Aónikenk yn y de a'r Günün-A-Küna yn y gogledd). Roedd rhai 4,000 neu 5,000 ohonyn yn byw yn yr ardal cyn i'r Ewropeiaid cyrraedd, ond roedd eu nifer yn lleihau yn gyflym ac ar ôl y Databas Ethnolegol does ddim ond 4 o bobl yn siarad yr iaith heddiw.
Yr Ewropeiaid cyntaf i gwrdd â'r Tehuelche oedd y morwyr ar long Ferdinand Magellan ym 1520 a cheir adroddiad amdanynt gan Antonio Pigaffeta, cartograffydd a chroniclydd y daith.
Roedd y Tehuelche yn helwyr, ond newidiodd eu ffordd o fyw ar ôl i'r ymsefydlwyr o Ewrop gyrraedd gyda'u ceffylau. Roedden nhw'n symud o gwmpas y wlad yn grwpiau teuluol.
[golygu] Cyswllt allanol
- (Sbaeneg/Saesneg) Gwefan sydd yn cyflwyno'r Tehuelche