Termau cerddorol
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae rhan fwyaf o dermau cerddorol yn eiriau estron, yn enwedig Eidaleg.
A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I J L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y |
[golygu] A
- Accelerando : cyflymu
- Adagio : araf iawn
- Ad lib(itum) : yn ôl ewyllys
- Affetuoso : yn dyner
- Agitato : yn gyffrous, yn gynhyrfus
- Allegretto : yn siriol, yn chwareus
- Allegro : yn fywiog
- Al segno : ewch yn ôl at y nod
- Andante : yn araf ac yn ddifrif
- Andantino : yn araf iawn
- Animato : yn fywiog
- Arpeggio : chwarae nodau cord yn olynol (nid gyda'i gilydd, fel dynwared telyn)
- A tempo : yn yr amser priodol
[golygu] B
- Bar : mesur mewn cerddoriaeth
- Barcarolle : alaw rhwyfwr gondola Fenis
- Brilliante : yn ddisglair
[golygu] C
- Cadenza : addurniad ffansïol
- Calando : yn gwanhau ac yn arafu
- Cantabile : canu yn osgeiddig
- Cerdd dant : cerddoriaeth offerynnol
- Coda : bariau ychwanegol i orffen darn o gerddoriaeth (= cynffon)
- Con dolore : yn alarus, yn ofidus
- Con espressione : yn fynegiannol
- Con spirito : yn nwyfus
- Cresc(endo) : cynyddu'r sain
[golygu] D
- Da capo neu D.C. : o'r top, o'r dechrau
- Dim(inuendo) : lleihau'r sain, gostwng y sain
- Dolce : yn felys
- Doloroso : yn drist
[golygu] E
- Espressivo : yn fynegiannol
[golygu] F
- Finale : symudiad olaf darn o gerddoriaeth
- Fine : y diwedd
- Forte : yn groch
- Fortissimo : yn groch iawn
[golygu] I
- Impetuoso : yn fyrbwyll, yn wyllt
[golygu] L
- Larghetto : yn araf ac yn rheolaidd
- Largo : yn araf ac yn ddifrifol
- Legato : yn llyfn, yn esmwyth
- Leggiero : yn ysgafn
- Lick : cymal offerynnol (mewn jazz, blws, roc ac yn y blaen)
- Loco : i'w chwarae fel y cyfansoddiad
[golygu] M
- Maestoso : yn urddasol
- Marcato : yn bwysleisiol
- Moderato : yn gymedrol gyflym
- Morendo : yn gwywo, yn edwino, y sain yn lleihau a marw
[golygu] O
- Obligato : darn angenrheidiol
[golygu] P
- Passionato : gyda theimlad
- Pathetique : yn dreunus, yn resynus
- Pianissimo : yn ddistaw iawn, yn dyner iawn
- Piano : yn ddistaw, yn dyner
- Poco : ychydig
- Prestissimo : yn gyflym dros ben
- Presto : yn gyflym iawn
[golygu] R
- Rallentando : yn arafu yn raddol
- Riff : cymal rhythmig (= rhythm + phrase)
[golygu] S
- Sostenuto : parhaus, gadael y nodyn i ganu ymlaen
- Staccato : yn amlwg ac ar wahan
[golygu] T
- Tranquillo : yn dawel
- Tremolo : chwarae nodyn llawer gwaith yn gyflym iawn (fel mandolin)
- Triad : cord gyda thri nodyn iddo
[golygu] V
- Vibrato : newid traw nodyn ychydig wrth iddo ganu (e.e. wrth ddigrynnu tant)
- Vigoroso : yn haerllug, yn feiddgar
- Vivace : yn fywiog
- Volti subito neu V.S. : trowch y ddalen yn gyflym